Man cychwyn yw’r adroddiad byr hwn i ddeall ble yr ydym ni eisoes fel symudiad hosbis yng Nghymru, a hefyd ble mae angen inni fynd i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.
Mae hosbisau yng Nghymru yn gwasanaethu ac yn dibynnu ar eu cymunedau lleol. Bydd pob hosbis annibynnol yng Nghymru wedi’i siapio gan y bobl a welwn.
Rydym wrth drobwynt ym myd iechyd a gofal yng Nghymru; mae deddfwriaeth newydd blaengar ar lesiant a newidiadau disgwyliedig ein demograffeg yn ei gwneud hi’n amserol bod y symudiad hosbis yng Nghymru yn cymryd stoc. Man cychwyn yw’r adroddiad byr hwn i ddeall ble yr ydym ni eisoes fel symudiad hosbis yng Nghymru, a hefyd ble mae angen inni fynd i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.
Mae hosbisau’n arloesi, yn datblygu gwasanaethau newydd ac yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol er budd y bobl hynny sydd angen gofal lliniarol a diwedd oes arbenigol. Mae’n iawn ein bod ni’n dathlu hyn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon - mae’n rhaid i ni barhau i ymdrechu i ddeall y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn well, addasu ein gwasanaethau ac ehangu ein darpariaeth er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gallu elwa o ofal lliniarol arbenigol yn gallu cael mynediad ato.
Trystan Pritchard, Cadeirydd Hosbisau Cymru a Phrif Weithredwr Hosbis Dewi Sant
Diolchiadau
Rydym yn ddiolchgar i hosbisau Cymru sy’n aelodau o Hospice UK am eu cymorth ac am ddarparu’r data sy’n sail i’r adroddiad hwn:
Ymddiriedolaeth Bracken
Hosbis y Ddinas
Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn
Hosbis y Cymoedd
Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro
Hosbis Tŷ Eos
Sefydliad Paul Sartori
Hosbis Hafren
Tŷ Shalom
Hosbis Dewi Sant
Gofal Hosbis Dewi Sant
Hosbis Cyndeyrn Sant
Hosbisau Plant Tŷ Gobaith
Tŷ Hafan
Ymddiriedolaeth Tŷ Olwen
Ysgrifennwyd gan Catrin Edwards, Kathleen Caper a Eilidh Macdonald o Hospice UK.